Hafan

Ed Long

Ed Long

Dw i'n fyfyriwr PhD yn y Ganolfan am Mathemateg a Ffiseg mewn Gwyddorau Bywyd a Bioleg Arbrofol (CoMPLEX), rhan o Goleg Prifysgol Llundain. Alexey Zaikin a Brian Henderson ydy fy ngoruchwylwyr.

Cyn i fi ddechrau'r cwrs, wnes i gwpla'r MRes CoMPLEX a gradd MMath mewn Mathemateg ym Mhrifysgol Manceinion. Yn yr ail flwyddyn, nes i dreulio un tymor ym Mhrifysgol Toronto yng Nghanada. Roeddwn yn arbenigo mewn topology, algebra a rhesymeg.

Ar ôl graddio, wnes i dreulio blwyddyn yn Shanghai, er mwyn dysgu Saesneg i blant, gyda Ysgol Saesneg Shane, Tseina. Roeddwn yn dysgu gwersi mewn ysgol gynradd y wladwriaeth, a hefyd mewn clwb Saesneg ar ôl ysgol ac yn y gwyliau.

Signalau imiwnolegol yn y gellbilen ydy fy niddordeb ymchwil i - yn arbennig y moleciwl signalau IL-2. Dw i'n ysgrifennu efelychiad cyfrifiadurol er mwyn deall sut mae'r sefydliad gofodol yn gallu dylanwadu ar ffurfio derbynnydd.

Yn yr adran, dw i'n helpu cynnal a chadw'r rhwydwaith cyfrifiadurol ac yn cymryd rhan yn y pwyllgor swyddog-myfyriwr.

Hefyd, dw i wedi sefydlu cylchgrawn sy'n cynnwys ysgrifau gan aelodau o'r gymuned ymchwil UCL. Sophia yw ei enw fe.

» English

Valid XHTML 1.0 Strict Valid CSS